sut

Ym mhopeth a wnawn, rydym yn dilyn yr egwyddorion canlynol:

  • Cyfathrebu - O'r cyswllt cyntaf i'r cynnyrch gorffenedig, byddwn yn cyfathrebu â chi bob cam o'r ffordd.
  • Cywirdeb - Rydym am wneud pethau'n iawn. Felly, caiff pob cyfieithiad, waeth pa mor fach neu fawr, ei wirio gyda chrib mân i sicrhau ei fod yn fanwl gywir, yn gyson ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael cynnyrch o safon sy'n addas i'w gyhoeddi. Ac os bydd rhywbeth yn codi na fyddwn yn ei ddeall, byddwn yn siŵr o gysylltu â chi.
  • Dibynadwy - Pan fyddwn yn cytuno ar ddyddiad dychwelyd, byddwn yn cadw at ein gair, yn ddieithriad.
  • Hyblyg - Gwyddom y bydd angen pethau ar frys gwyllt arnoch ambell waith neu y byddwch am wneud newidiadau munud olaf. Fe wnawn ein gorau i ddiwallu eich anghenion, a wnawn ni ddim codi rhagor arnoch am y fraint.
  • Yr Amgylchedd - Er na chawn effaith fawr ar yr amgylchedd, fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau mai fel yna y bydd hi - gan ailgylchu, ailddefnyddio ac arbed adnoddau prin lle bynnag y bo'n bosibl.
AWTI